15 The Oakeleys

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars

15, The Oakeleys, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9AJ

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01494 261782 Retail Mobile Number Mobile Number icon for Snowdonia retail page 07754 915715

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page richard.ogden@btinternet.com

Fflat llawr gwaelod ardderchog gyda 2 ystafell wely, gyda phob cyfleuster ar gyfer arhosiad cyfforddus. Mae wedi ei leoli mewn llecyn distaw ond eto'n  agos iawn at Stryd Fawr Porthmadog a'r Harbwr. Mae yna barcio diogel ar y safle ac mae croeso i un ci bach sy'n ymddwyn yn dda aros yn y fflat. Darperir dillad gwely a thywelion, ac yn y gegin, mae yna bopty nwy, meicrodon, oergell a rhewgell.
Mae 15 Oakeleys mewn lleoliad bendigedig, yn agos at y gorsafoedd bysiau a threnau, yn ogystal â bod yn dafliad carreg o brif orsaf Rheilffordd Ffestiniog, lle gallwch fynd ar drên stêm i hen dref chwarel Blaenau Ffestiniog, gyda'i atyniadau fel Zipworld a'r Quarry Tours. Mae yna hefyd drên Rheilffordd Ucheldir Cymru sy'n daith 2 awr o Borthmadog i Gaernarfon, trwy rai o'r golygfeydd gorau sydd gan Eryri i'w cynnig. Mae pentref Eidalaidd eiconig Portmeirion hefyd ar garreg y drws, yn ogystal â'r atyniadau a'r gweithgareddau eraill sydd ar gael yn yr ardal.
Mae hefyd yn encil addas ar gyfer seibiant allan o'r tymor, gyda gwresogi dan y llawr yn cadw'r fflat yn glyd yn ystod misoedd y gaeaf.

Mwynderau

  • Peiriant golchi ar y safle
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Dim Ysmygu
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • Gorsaf tren gerllaw
  • Llwybr beicio Sustrans gerllaw
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Llofft llawr gwaelod
  • Parcio am ddim
  • Cawod
  • WiFi am ddim
  • Traeth gerllaw
  • Arhosfan Sherpa gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw
  • Teledu yn yr ystafell/uned

Gwobrau

  • Thumbnail