Llety Brynawel
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Mae'r tŷ gwestai Sioraidd hwn wedi'i leoli ym mhentref Pennal yn neheudir Eryri, rhwng Aberdyfi a Machynlleth - y lleoliad arfordirol a gwledig perffaith. Mae wedi'i ddodrefnu a'i addurno mewn ffordd gyfoes, cynnil, gyda lliwiau lleddfol, gweithiau celf, ffabrigau toreithiog a nodweddion cyfnod megis caeadau pren, paneli waliau a lleoedd tân haearn bwrw. Mae'r perchnogion hefyd yn berchen ar Glan yr Afon / Riverside, bwyty chwaethus - a phoblogaidd iawn - wedi'i leoli yn nhafarn, o'r 16eg ganrif, y pentref. Gweinir brecwast yma, dim ond dwy funud o gerdded o Llety Brynawel.