Plas yn Rhiw
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld. Saif Plas yn Rhiw mewn lleoliad godidog ar drwyn Pen Llŷn, gyda golygfeydd o Borth Neigwl ar draws Bae Ceredigion (mae'r enw Saesneg, sef Hell’s Mouth yn rhoi awgrym o’r prydferthwch gwyllt). Yn y Plasty ei hun mae’r ardd addurniadol bendigedig yn cynnwys nifer o goed a phlanhigion blodeuol, gwelyau ffrâm gwrych bocs a llwybrau glaswelltog. Lle bendigedig!
Gwobrau
Mwynderau
- Parcio
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Pwynt gwefru cerbydau trydan