Glampio Coed
Cabanau moethus wedi eu lleoli ar dir 2 acer o goedwig wrth ymyl arfordir Pen Llŷn, ger Aberdaron yng Ngogledd Cymru. Mae yna 7 caban ar y safle wedi eu hadeiladu gan y perchennog. Maent yn cynnwys carthen Gymreig a dillad gwlau o safon uchel. Defnyddir coed o'r goedwig i ddodrefnu ac i roi golwg gwledig tu mewn. Bydd croeso i gwsmeriaid ddefnyddio y gegin gymunedol i goginio a darparu bwyd. Yn ogystal, mae gan pob caban fwrdd picnic, cadeiriau cyfforddus, barbeciw a thân agored. Gerllaw, mae bloc cawod newydd sydd yn foethus dros ben. Mae Glampio Coed yn agos i draethau godidog Llŷn, gyda golygfeydd hyfryd a machlud haul gyda'r nos. Gellir cerdded arfordir, mynydda, heb son am eistedd yng ngolau tân yn edrych ar y sêr fin nos.
Mwynderau
- Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
- Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Pwynt gwasanaeth fan wersylla
- Gwaredir dŵr llwyd a gwastraff
- Cyfleusterau hamdden
- Cadair uchel ar gael
- Arhosfan bws gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Derbynnir cardiau credyd
- Parcio
- Pwynt trydan
- Cawod
- Golchdy
- Croesewir grwpiau
- Traeth gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw
- Archebu ar-lein ar gael