Daffodil Foods Ltd
Nid iogwrt arferol ydy ein iogwrt ni...
Rydym yn hoff o ddweud ein bod yn wahanol - yn debyg iawn i'n blasau. O flas caramel hallt i dalpiau swmpus o geirios - wnawn ni ddim o'ch diflasu!
Daw'r ansawdd sidanaidd esmwyth sydd i'n iogwrt o ddefnyddio hufen yn y rysait. Rydym yn credu'n gryf bod llwyaid o rywbeth anhygoel yn well 'na llond bwced o rywbeth braster isel a di-wefr.