Porth y Swnt
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref. Bydd y ganolfan yn gweithredu fel porth i rinweddau unigryw a threftadaeth ddiwylliannol cyfoethog Llŷn. Mae’r enw’n dweud y cyfan. Mae’r enw Porth y Swnt yn cyfeirio at Swnt Enlli, sef y rhan o’r môr sy’n sefyll rhwng Aberdaron ac Ynys Enlli, ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’. Mae’n cyfleu sut y bydd y ganolfan yn adrodd stori Llŷn – ei hanes naturiol a’i hanes dynol, ei chuddfannau a sut y bu i’r ardal arbennig o Gymreig hon ddenu pererinion o fannau pell ac agos.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Traeth gerllaw
- Siop