Traeth Llanfairfechan
Promenade, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0BY
Tref swynol, Fictoraidd yw Llanfairfechan a leolir mewn lleoliad dramatig - mae ei thraeth hir, eang a thywodlyd yn cael ei chysgodi gan 1,423tf / 434m o fynydd, Mynydd Penmaenmawr. Yn Llanfairfechan ceir nifer o’r nodweddion cyffredinol a geir mewn cyrchfan glân y môr, megis promenâd, pafiliwn, siopau traeth ac adloniant. Drwy gydol y flwyddyn bydd Llanfairfechan yn atynnu nifer o unigolion sydd yn ymddiddori mewn modeli cychod a chychod bad, diolch i’r ehangder mawr - a olygir fod modd i bawb gael eu man preifat eu hunain. Mae hwylio a hwylfyrddio yn boblogaidd yma hefyd, diolch i’r cyfleusterau lansio a pharc dingi. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth a hefyd parth gwahardd cychod. Yn Llanfairfechan ceir un o’r mannau gorau yng Ngogledd Cymru ar gyfer gwylio adar - mae’r promenâd yn lle da i gychwyn chwilio am adar y môr. Mae digonedd o barcio ar gael, a hynny am ddim.
Mwynderau
- Parcio
- Toiled
- Mynedfa i’r Anabl
- Siop
- Yn agos i gludiant cyhoeddus