Craiglwyd Hall Caravan Park
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae parc carafanau hardd Craiglwyd Hall wedi'i leoli ar lethr, gyda golygfeydd syfrdanol dros Landudno ac Ynys Môn. Dyma'r parc i ddewis os ydych chi'n chwilio, nid yn unig am heddwch a llonyddwch mewn lleoliad godidog, ond hefyd os am fod yn agos at yr ardaloedd gwyliau a'r holl atyniadau mawr eraill yng Ngogledd Cymru. Craiglwyd Hall oedd y parc cyntaf a brynwyd gan deulu Thornley yn ôl ym 1961. Mae'r neuadd yn cynnwys lolfa ddeniadol, bar chwaraeon, ystafell gemau teulu a theras awyr agored. Dyma'r amgylchedd perffaith ar gyfer ymlacio a gwylio'r machlud hardd dros Ynys Seiriol. Yn y parc mae lle chwarae i blant a golchdy hefyd.
Mwynderau
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Gorsaf tren gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- WiFi am ddim
- Golchdy
- Cyfleusterau plant
- Traeth gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw