Marchnad Leol Bangor
Marchnad wythnosol a gynhelir bob dydd Gwener ar Stryd Fawr Bangor o 9:00am-4.30pm. Gallwch siopa, cyfarfod, bwyta a mwynhau prysurdeb a chellwair eich Marchnad Leol gyfeillgar. Dewch i fwynhau'r diwrnod gyda rhai o’r hen ffyddloniaid a hefyd darganfod llu o fasnachwyr a chrefftwyr newydd a chyffrous. Dewch o hyd i'ch hanfodion rheolaidd gan gynnwys cigydd, dillad, teganau, planhigion, dillad gwely a rygiau, ochr yn ochr â chyffug artisan a chacennau cartref, addurniadau cartref a gemwaith wedi'i wneud â llaw, dillad o dras a ffasiwn personol, cardiau wedi'u gwneud â llaw ac anrhegion, sebon llaeth gafr, crefftau pren ac arteffactau crefftus, melysion, hufen iâ, canhwyllau a llawer mwy!