Plas Mawr
Yn sefyll fel sumbol o oes aur cyfnod y Frenhines Elisabeth, mae Plas Mawr yn un o'r tai trefol mwyaf gwych o'i fath ym Mhrydain. Roedd Robert Wynn, wnaeth adeiladu y tŷ rhwng 1576 a 1585, yn fasnachwr uchel ei barch, ac roedd ei hoffder o fawredd a lliw yn cael ei adlewyrchu yn y tŷ yma, campwaith ei fywyd.