Ugain diwrnod allan ar gyfer y teulu yn Eryri… rhan 2

Yn ddiweddar gwnaethom bostio’r rhan gyntaf yn ein cyfres dwy ran ar ddiwrnodau allan ar gyfer y teulu i’w mwynhau yn Eryri (dyma’r linc rhag ofn eich bod wedi ei methu).

Yn yr ail erthygl yma, cynigiwn ddeg syniad arall yn cynnwys atyniadau addysgiadol, adeiladau diddorol a dyddiau allan sy’n annog y rhai ifanc i gadw’n heini.

Peidiwch ag anghofio, mae llawer iawn mwy o syniadau am bethau i’w gweld a’u gwneud ar ein tudalen ‘‘llefydd i ymweld’’!

11. Amgueddfa Lechi Cymru

Awn draw i Lanberis rwan, sef pentref ar odre’r Wyddfa ble mae digonedd o bethau i’w gweld a’u gwneud. Mae’n anodd dewis un atyniad o’r holl rai hynny sydd ar gael yma, ond mae’n rhaid i ni ddewis ac felly rydym wedi mynd am Amgueddfa Lechi Cymru gan fod mynediad am ddim a chymaint i’w weld a’i wneud yno!

National Slate Museum

Yma gallwch ddysgu am fywyd fel chwarelwr llechi, a chwilota o gwmpas tai o flynyddoedd maith yn ôl sy’n edrych yn union fel fod y trigolion wedi picio allan i brynu papur newydd ganrif yn ôl ac wedi anghofio dychwelyd yno. Byddwch yn dysgu sut yr oedd llechi’n cael eu trin i greu pob math o eitemau defnyddiol, ac sut y bu i lechi Cymreig doi tai ar draws y byd.

12. Castell Cricieth

Mae Cymru’n enwog am ei chestyll – mae mwy o gestyll yma am bob milltir sgwâr nac yn unman arall yn y byd, felly wrth gwrs ein bod am gynnwys rhai yn yr erthygl yma!

I ddechrau, Castell Cricieth, a adeiladwyd gan Dywysogion Gwynedd ac sy’n eistedd ar ben pentir sy’n ymwthio i’r môr yn nhref glan y môr Cricieth. Mae dipyn o waith cerdded i fyny yno, ond mae’n werth ei wneud er mwyn mwynhau’r golygfeydd ac i weld y castell ei hun. Unwaith y byddwch wedi edrych o gwmpas y castell, piciwch i lawr i’r dref am ychydig o hufen iâ artisan blasus sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol a chael golwg bach o gwmpas rhai o’r siopau bach annibynnol ardderchog sydd yno.

13. Castell Caernarfon

Adeiladwyd Castell Caernarfon gan Edward I, brenin Lloegr, ar ddiwedd y 13eg ganrif. Mae wedi cadw yn dda iawn, ac un o’r nodweddion mwyaf trawiadol yw’r patrwm streipiog yn y waliau, sydd wedi’u hysbrydoli gan waliau Caer Gystennin. Y tu mewn i’r castell gallwch ddringo’r grisiau i fyny i’w dyrau niferus gan fwynhau golygfeydd anhygoel, ac wedyn dod yn ôl i lawr i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ble gallwch ddysgu am y catrawd hanesyddol hwn yn ogystal â gweld y creiriau diddorol sydd ar ddangos yno.

Caernarfon Castle

14. Castell y Bere

Mae’n wir nad oes llawer ar ôl o Castell y Bere, beth ydyw’n bennaf yw ôl troed anferthol castell hynafol a adeiladwyd gan Dywysogion Gwynedd. Ond mae mynediad am ddim ac mae’n hynod o atmosfferig, felly rydym yn argymell ymweliad. Mae chwedlau hynafol yn adrodd hanes ffigwr ar ffurf ysbryd sydd i’w weld yn crwydro o amgylch yr adfeilion wrth i’r haul fachlud, felly os ydych am gael braw dyma’r amser gorau i ymweld!

15. Castell Harlech

Castell Harlech oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu’r gân ‘Men of Harlech’, sy’n adrodd hanes gwarchae yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae’n safle Treftadaeth y Byd ac roedd Castell Harlech ei hun ar yr arfordir ar un amser. Naddo, nid yw’r castell wedi symud, yr arfordir sydd wedi symud! Mae’r newidiadau i’r arfordir wedi gadael y castell hwn, oedd yno i amddiffyn yr arfordir, ar frigiad creigiog yn edrych ar draws y twyni tywod. Ymwelwch am ymdeimlad o ysbryd y lle a’i hanes, ac i ryfeddu at y bensaernïaeth drawiadol.

16. Castell Dolbadarn

Yn debyg i Gastell y Bere, mae Castell Dolbadarn, i raddau eang, yn adfeilion. Ond beth sydd yn parhau yw tŵr sylweddol sydd yn edrych dros y llynnoedd a thuag at Llanberis. Mae’r olygfa atgofus o silwét y tŵr yn erbyn y tirlun mynyddig a’r dŵr wedi ysbrydoli nifer o artistiad a ffotograffwyr, ac rydym yn cymeradwyo ymweliad yn fawr fel rhan o ddiwrnod allan yn Llanberis.

17. Pentref Portmeirion

Un o atyniadau mwyaf eiconig Cymru, mae Pentref Portmeirion yn bentref ar aber yr Afon Dwyryd, ger Porthmadog, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol yn y dull Eidalaidd. Roedd Clough Williams-Ellis, ei grëwr ecsentrig, yn bensaer a chynllunydd tref clodfawr oedd yn credu y dylai fod yn bosibl i ddatblygu tir ac i godi adeiladau mewn modd fyddai’n gwella yn hytrach na difetha’r tirlun. Llwyddodd i gyflawni hyn i’r dim ym Mhortmeirion, gan ei fod yn un o’r llefydd harddaf ym Mhrydain gyfan, ac yn un o’r hoff ddyddiau allan gan gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Portmeirion

18. Zip World Fforest

Wrth i ni agosáu at ddiwedd ein herthygl, rydym yn teimlo y dylem siarad am ddiwrnodiau allan egnïol ar gyfer y teulu, gan mai Eryri yw’r dewis cyntaf o ran canolfannau gweithgareddau awyr agored yn y Deyrnas Unedig!

Gyda chymaint o wahanol atyniadau egnïol yn y rhanbarth mae’n anodd dewis ychydig ohonynt, felly rydym wedi mynd am dri sydd yn ardderchog ar gyfer y plant ac yn cynnig mathau gwahanol o weithgareddau.

Y cyntaf yw Zip World Fforest, ble mae llawer o wahanol weithgareddau llawn hwyl ar gyfer grwpiau teulu. Mae’r rhain yn cynnwys siglenni enfawr drwy’r coed, gwifrau gwib a rollercoaster alpaidd â bwerir gan ddisgyrchiant sy’n mynd â chi ar reid cyffrous drwy’r goedwig ar drac sydd wedi ei adeiladu i’r pwrpas hwnnw. Mae hwn yn ddiwrnod allan sy’n llawn hwyl os nad oes ots gennych i guriad y galon gyflymu ychydig!

19. Coed y Brenin

Os ydych chi’n mwynhau teithiau beic fel teulu, mae’n anodd curo Coed y Brenin. A peidiwch â phoeni os nad ydych wedi dod â beic hefo chi – gallwch logi popeth rydych ei angen ar y safle. Mae llwybrau beicio mynydd ar gyfer pob lefel gallu, felly os ydych chi’n ymweld gyda phlant pump oed neu rai yn eu harddegau bydd rhywbeth i siwtio pawb. Ac os nad ydych yn ffansïo’r beicio mynydd, dim problem o gwbl – mae llawer o lwybrau cerdded ardderchog hefyd, gyda digonedd o fywyd gwyllt diddorol i’w weld ar hyd y ffordd.

Coed y Brenin

20. Canolfan Ddringo Beacon

I orffen, rhywbeth sy’n ffitio’n dda gyda’r mynyddoedd y mae Eryri mor adnabyddus amdanynt: canolfan ddringo bwrpasol sy’n addas ar gyfer pob lefel gallu o’r rhai hynny sy’n dechrau i’r arbenigwyr. Yn wir, byddwch yn aml yn gweld dringwyr o safon uchel yn perffeithio eu sgiliau ar waliau dringo Beacon ar y dyddiau hynny pan nad ydynt yn gallu dringo mynydd go iawn. Mae Canolfan Ddringo Beacon yn le ardderchog i ymweld os oes gennych fwncis bach sydd wrth eu boddau’n dringo. Gallwch archebu sesiwn ar eu cyfer, gan wybod y byddant yn ddiogel ac yn dysgu sgiliau defnyddiol tra’n cael hwyl!