Zip World Fforest
Wedi'i leoli yn Nyffryn Conwy, mae Zip World Fforest yn cynnig lleoliad coetir unigryw ar gyfer anturiaethau. Mwynhewch daith trwy ganopi y coed ar Zip Safari neu cewch fownsio ac anturio faint fynnoch ar Treetop Nets. Plummet 2 ydi'r profiad agosaf i gwymp rhydd, wrth i chi ddisgyn trwy trapddor dros 100 troedfedd o uchder. Mae'r Fforest Coaster yn siwrne un cilomedr llawn cyffro a throadau trwy y goedwig rhyfeddol yma, llond bol o chwerthin trwy y coed. Ewch dros ben y goeden ar y swing Skyride 2, neu cadwch eich anturwyr bach yn brysur ar Tree Hoppers a'u gwylio yn gwibio, neidio, cydbwyso a bownsio mewn maes chwarae coedwigol.
Gwobrau
Mwynderau
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
- Archebu ar-lein ar gael