Ugain diwrnod allan ar gyfer y teulu yn Eryri… rhan 1

Os ydych ar eich gwyliau gyda’r teulu, mae’n anodd cadw pawb yn hapus ar unwaith! Bydd rhai aelodau o’r teulu am fynd ar reidiau, rhai eisiau gweld anifeiliaid, tra bydd eraill â diddordeb mewn hanes neu bensaernïaeth.

Tra byddwch yn annhebygol o gadw pob aelod o’r teulu’n hapus ar unwaith, bydd ymweld â nifer o atyniadau a thrio gwahanol weithgareddau pan fyddwch yn ymweld ag Eryri yn cynyddu’r siawns o fodloni pawb ar ryw adeg yn ystod y gwyliau, felly rydym wedi casglu ugain o syniadau at ei gilydd i chi i ddechrau. Mae’r deg cyntaf yn yr erthygl hon; mae’r deg awgrymiad arall ar gael yma.

Peidiwch ag anghofio, mae llawer mwy o awgrymiadau ar ein tudalen ‘llefydd i ymweld’!

1. Parc Glasfryn

Mae Parc Parc ar ffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac mae’n cynnig rhywbeth ar gyfer y teulu i gyd (ac felly’n le delfrydol i ddechrau ein rhestr!).

Yma gallwch drio pob math o weithgaredau hwyliog, yn cynnwys cartio, saethyddiaeth a bowlio deg – a llawer mwy. Mae ardal chwarae meddal ar gyfer aelodau ifanc iawn eich grŵp, a lluniaeth ar gael pan rydych ei angen.

Glasfryn Parc

2. Parc Coed y Sipsi

Bydd plant iau wrth eu boddau yn Mharc Coed y Sipsi, ar y trampolinau, yn y maes chwarae antur, yr helfa dylwyth teg a’r sŵ anwesu. Mae’n debyg y bydd yr oedolion hynny sydd yn dal yn blant yn y bôn yn cael y mwynhad mwyaf o’r modelau rheilffyrdd (pwy sydd ddim yn mwynhau chwarae gyda setiau trên?) a’r trên bach i reidio arni sydd yn mynd â chi ar daith fendigedig o gwmpas y parc. Cewch un daith am ddim gyda’ch tocyn mynediad i’r parc, felly rydych yn cael gwerth eich pres go iawn.

Gallwch fynd â phicnic gyda chi (mae’n ddiwrnod allan llawn gyda digon i’w weld a’i wneud) – neu gallwch fwyta yng nghaffi’r parc os yw’n well gennych wneud hynny.

3. Fferm Gwningod a Pharc Anifeiliaid Dwyfor

Bydd teuluoedd sydd yn gwirioni ar anifeiliaid yn cael mwynhad mawr o ymweld â Fferm Gwningod a Pharc Anifeiliaid Dwyfor. Mae nifer o wahanol anifeiliad i’w gweld, eu bwydo a’u hanwesu. Mae’r atyniad hwn hefyd yn cynnig ardal chwarae ardderchog ar gyfer y plant – a chaffi pan fyddwch angen lluniaeth (neu gallwch fynd â phicnic gyda chi os yw’n well gennych wneud hynny).

4. Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd

Mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ddiwrnod allan sydd yn wirioneddol lawn, felly gwnewch yn siwr eich bod yn barod i fynd yn ôl i’ch llety wedi blino’n braf! Mae yna rhywbeth ar gyfer pob oed yng Ngelli Gyffwrdd, o chwarae meddal ar gyfer y rhai bach i adeiladu ffau ar gyfer y plant hŷn. Mae hefyd, wrth gwrs, yr holl reidiau gwych sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, fel y rollercoaster sydd yn cael ei bweru gan y bobl a’r lithren ddŵr â bwerir gan yr haul. Mae Gelli Gyffwrdd yn ffefryn gan deuluoedd ac yn cynnig diwrnod allan ardderchog ar gyfer pob aelod o’r teulu.

GreenWood Family Parc

5. Parc Fferm y Plant

Mae Parc Fferm y Plant yn atyniad arall i’r teulu sy’n cynnig diwrnod allan llawn hwyl ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ifanc. Yn ogystal â gweithgareddau hwyliog fel y pwll tywod enfawr, y canonau aer a’r golff gwallgof, mae gan Barc Fferm y Plant anifeiliaid lu yn cynnwys gwartheg, geifr, merlod, moch a chwningod.

6. Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cyfuno addysg a hwyl ac yn le gwych i dreulio diwrnod yn dysgu am yr amgylchedd a sut y gallwn edrych ar ei ôl yn iawn.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cynnig nifer o wahanol weithgareddau hwyliog yn cynnwys maes chwarae antur ffantastig a ‘Megan the Mole’, ble bydd eich plant yn dysgu am y creaduriaid hynny sy’n byw o dan y ddaear. Mae llawer o arddangosiadau rhyngweithiol, llwybrau cerdded bywyd gwyllt, ardaloedd ble gallwch ddysgu am dechnegau adeiladu gwyrdd, a llawer mwy. Hefyd, ac er mwyn mynd i mewn, bydd yn rhaid i chi deithio i fyny wyneb clogwyn mewn rheilffordd halio â gydbwysir gan ddŵr! Pentwr o hwyl i bawb!

7. Labrinth y Brenin Arthur

Mae Eryri wedi ei drwytho mewn hanes a chwedloniaeth, ac un o’n ffigyrau chwedlonol enwocaf yw’r Brenin Arthur. Mae storïau lu am ei fywyd a’i weithredoedd yn y rhan yma o Brydain, ac fe allwch glywed nifer o’r storïau hyn yn Labrinth y Brenin Arthur… tra’n mynd ar daith danddaearol mewn cwch!

Mae Labrinth y Brenin Arthur yn rhan o gyfadail sy’n cynnwys atyniadau eraill ar gyfer y teulu yn cynnwys Chwilotwyr Chwarel Corris a Chanolfan Grefft Corris – felly mae hwn hefyd yn atyniad y byddwch, o bosib, yn dymuno clustnodi diwrnod cyfan ar ei gyfer.

King Arthur's Labyrinth

8. Amgueddfa Lloyd George

Roedd David Lloyd George yn enwog fel Prif Weinidog Prydain tua dechrau’r 20fed ganrif. Yn Gymro Cymraeg, treuliodd Lloyd George ei flynyddoedd cynnar yn byw yn Highgate, ei gartref teuluol yn Llanystumdwy. Mae Highgate heddiw’n amgueddfa ymroddedig i’w fywyd a’i weithredoedd, ac hefyd i fywyd yng nghyfnod Fictoria. Un o uchafbwyntiau ymweliad i Amgueddfa Lloyd George ydy’r cyfle i wisgo mewn gwisg Fictoraidd ac i brofi bywyd mewn ystafell ddosbarth o’r cyfnod hwnnw. Mae’n ddiwrnod allan sy’n addysgiadol a hwyliog i bawb!

9. Porth y Swnt

Atyniad addysgiadol gwych arall, mae Porth y Swnt yn Aberdaron ar Benrhyn Llŷn. Yma, dewch i ddysgu am hanes a diwylliant Penrhyn Llŷn, drwy gyflwyniadau clywedol a gweledol, gwaith celf a cherfluniau. Mae Porth y Swnt yn atyniad anarferol iawn – efallai yn unigryw – ac mae wir werth ymweliad.

10. Nant Gwrtheyrn

Mae Nant Gwrtheyrn yn bentref chwarel fu’n wag am gyfnod ond sydd erbyn hyn wedi ei adfer i’w harddwch gwreiddiol. Mae’r golygfeydd tua’r môr yn drawiadol – ac mae cyfleoedd gwych, ond serth, i fwynhau ymlwybro i lawr o’r pentref tua glan y môr. Yn ôl yn y pentref, mae arddangosiadau hynod ddiddorol sy’n esbonio agweddau o fywyd yn y pentref yn ystod ei anterth, yn ogystal â digonedd o wahanol ffyrdd o ddysgu am hanes ffeithiol a chwedlonol yr ardal. Mae gan Nant Gwrtheyrn hefyd gaffi ardderchog ble gallwch fwynhau eu bwyd blasus wedi’r holl gerdded.

Nant Gwrtheyrn

Dyma ddiwedd y rhan cyntaf o’n ugain syniad ar gyfer diwrnodau allan hwyliog gyda’r teulu yn Eryri. Gallwch ddarllen yr ail ran yma.