Castell Cricieth

Castle St, Cricieth, Gwynedd, LL52 0DP

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01766 522227

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page Criccieth.Castle@gov.wales

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://cadw.gov.wales/daysout/criccieth-castle/?skip=1&lang=cy

Mae’n safle nodedig, tystiolaeth wirioneddol i ffawd amrywiol rhyfel. Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r môr yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy â’i ddau dŵr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr. Roedd gan dywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr gymaint o feddwl o’r castell fel y bu iddo newid dwylo’n rheolaidd. Wedi’i adeiladu’n wreiddiol gan Lywelyn Fawr, roedd castell y tywysog Cymreig yn cynnwys porthdy o’r math a welid yn Lloegr. Cipiwyd y castell gan luoedd Edward I tua 50 mlynedd yn ddiweddarach, gwnaethpwyd gwelliannau ac addaswyd tŵr er mwyn defnyddio peiriannau taflu cerrig. Yn sicr, byddai system amddiffyn o’r fath wedi peri dychryn i’r rhai islaw! Seliwyd tynged Cricieth gan Owain Glyn Dŵr pan gafodd y castell ei gipio a’i losgi gan ei filwyr ym mlynyddoedd cynnar y 15ed ganrif. Hwn fyddai gwrthryfel mawr olaf y Cymry yn erbyn y Saeson. Mae’n bosibl mai Castell Cricieth roddodd yr enw ar y dref yn hytrach na’r gwrthwyneb. Mae’n bosibl bod yr enw’n tarddu o ‘crug caeth’ – yr enw a roddwyd ar y carchar ar ben y bryn, sef swyddogaeth y castell ar un adeg. Mae’n gastell llawn hanes.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw