Siopau
Bragdy Lleu
Gwinllanoedd a Bragdai Cynnyrch Lleol
Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu, yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf.
Cegin Ceri
Dillad Plant Ategolion Ffasiwn Ffasiwn – Dillad Dynion/Merched Masnachwyr Gwin Crefftau/Anrhegion Masnach Deg Bwydydd Iach Cynnyrch Lleol Tegannau/Modelau Dodrefn/Nwyddau Tŷ Nwyddau Lleol
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Et Cetera
Crefftau/Anrhegion Nwyddau Trydanol
Wedi'i leoli yn Abermaw, mae Et Cetera yn fusnes teuluol sy'n ymfalchïo yn ansawdd y nwyddau a werthir ac sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, boed yn bersonol neu dros y we.
Gray-Thomas
Crefftau/Anrhegion
Yn union ar draws y ffordd i Gastell Caernarfon, mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl yn Gray-Thomas. Maent yn gwerthu dewis enfawr o anrhegion, dillad a chofroddion Cymreig, llawer ohonynt yn cael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr lleol.
Gwaith Llechi Inigo Jones
Nwyddau Lleol Crefftau/Anrhegion
Mae'r ystafell arddangos ar y safle yn Inigo Jones yn cynnwys cynhyrchion llechi wedi eu gwneud yn barod yn y gweithdai, yn ogystal ag anrhegion Cymreig a Cheltaidd eraill. Gellir gwneud platiau enw a phlaciau i'w archebu.
Late Stop 24
Siop Gyfleus
Siop gyfleus wedi ei hen sefydlu ym Mangor Uchaf, sydd ar agor 24 awr bob dydd, yn darparu'r holl nwyddau hanfodol i weithwyr allweddol a'r gymuned yn gyffredinol. Mae cyfleusterau talu trydan, nwy a biliau hefyd ar gael.