Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Atyniadau
Mae’r amgueddfa ddeniadol hon ar fywyd gwledig Cymru yn dathlu bywyd rhyfeddol Henry Jones, a anwyd yn Llangernyw yn 1852.
Castell Dolbadarn
Atyniadau
Codwyd mae'n debyg gan Llywelyn ab Iorwerth ('Llywelyn Fawr') ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg a phrif nodwedd y castell yw'r gorthwr mawr a'i dŵr crwn, sy'n dal i sefyll hyd at 50 troedfedd (15.2m) o uchder.
Parc Gwledig Padarn
Atyniadau
Nid yw’r disgrifiad ‘Parc Gwledig' yn gwneud cyfiawnder â’r lleoliad hwn.
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?