Atyniadau
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?
Rheilffordd Talyllyn
Atyniadau
Mae Rheilffordd Talyllyn yn reilffordd gul stêm hanesyddol, wedi ei lleoli ym mhrydferthwch cefn gwlad Canolbarth Cymru.
Sinema Magic Lantern
Atyniadau
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900.
Snowdonia Riding Stables
Darparwr Gweithgareddau
Ewch i farchogaeth a chrwydro ar odrau Eryri trwy olygfeydd gwych mynyddig ac arfordirol. Mae croeso i ddechreuwyr ac i farchogion profiadol, gyda dewis o bopeth o sesiynau rhagarweiniol i ddiwrnod llawn yn ddwfn i'r mynyddoedd.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.
Traeth Harlech
Atyniadau
Yn goruchwylio dros draeth anferth, heddychlon Harlech, y mae’r Castell nerthol, sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Caiff mynediad gwych i’r traeth diolch i’r llwybr 440yard/400m oddi wrth y maes parcio, sydd gerllaw i’r groesfan rheilffordd.
Harlech, Gwynedd, LL46 2UG