Atyniadau
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.
Castell Penrhyn
Atyniadau
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai.
Clwb Golff Abersoch
Gweithgaredd
Mae enw da iawn i gwrs golff Abersoch am yr her y mae'n ei ddarparu, y golygfeydd a welir oddi yno, a'r croeso yn y clwb. Wedi'i gysgodi gan Ben Llŷn, yn wynebu Bae Ceredigion a gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, mae'n lleoliad gwych.
Gardd Fotaneg Treborth
Atyniadau
Yn berchen gan Brifysgol Bangor mae'r gerddi yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a mwynhad.
Gerddi Plas Brondanw
Atyniadau
Rhoddwyd Plas Brondanw i Syr Clough Williams-Ellis gan ei dad ym 1902. Y gerddi ym Mhlas Brondanw yw’r enghraifft orau o ddawn Syr Clough i dirlunio’n greadigol.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.