Atyniadau
Bodnant Welsh Food
Atyniadau
Dyma’r lle i fynd i siopa a bwyta yn Nyffryn Conwy. Mae Bwyd Cymru Bodnant yn arddangos y cynnyrch artisan gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, o lysiau a chawsiau organig i gig oen mynydd a danteithion o bob math.
Dyfi Distillery
Atyniadau
Distyllfa jin unigryw yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith, ac yn gartref i'r jin Pollination ac i'r jin Hibernation.
Y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol yn gartref i rafftio dŵr gwyn a chaiacio yn y DU. Mae’r ganolfan wedi ei lleoli ar yr Afon Tryweryn; afon fynydd Cymreig go iawn yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Harlech & Ardudwy Hamdden | Leisure
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Harlech & Ardudwy Hamdden | Leisure yn fusness nid-er-elw, menter cymdeithasol sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Gwirfoddol o bobl leol o’r gymuned a gefnogir gan grwp o wirfoddolwyr a elwir yn Ffrindiau Pwll Nofio Harlech sy’n gwe