Bodnant Welsh Food
Dyma’r lle i fynd i siopa a bwyta yn Nyffryn Conwy. Mae Bwyd Cymru Bodnant yn arddangos y cynnyrch artisan gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, o lysiau a chawsiau organig i gig oen mynydd a danteithion o bob math. Mae Fferm Ffwrnais, sy’n dyddio yn ôl i’r 18fed ganrif, wedi’i hailwampio’n brydferth ac mae yma siop fferm, ystafell de, bwyty, becws, llaethdy, cigydd, ysgol goginio a chanolfan cadw gwenyn. Mae llety pum seren hefyd ar gael. Dyma le nefolaidd i’r teulu cyfan. Dysgwch sgil newydd yn yr ysgol goginio, ewch draw i gael golwg ar y cychod gwenyn a’r bobl sy’n cadw’r gwenyn wrth eu gwaith, yna blaswch fwydydd sy’n siŵr o ddod â dŵr i’ch dannedd. Mae’r golygfeydd o Afon Conwy yn werth eu gweld hefyd.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Parcio (Bws)
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Siop gwerthu bwyd ar y safle
- Pwynt gwefru cerbydau trydan