Siopau
Becws Islyn
Becws Caffi Cynnyrch Lleol
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Beran Service Station
Siop Gyfleus Cynnyrch Lleol Garej/Gwasanaethau Car Swyddfa Bost
Beran Service Station, eich gorsaf betrol leol, Swyddfa'r Post a siop fanwerthu. Golchi jet, nwy calor, logiau, coed tân, glo, offer cynnal a chadw ceir a chynnyrch lleol i gyd am brisiau fforddiadwy iawn.
Blas Lôn Las | Ffarm Moelyci
Becws Masnach Deg Cynnyrch Lleol Delicatessen Organig Siop Fferm
Blas Lôn Las yw lle mae'r gymuned yn cwrdd â bwydydd lleol. Dyma eich siop gymunedol leol sy'n cyflenwi ystod eang o lysiau, planhigion a blodau a dyfir yn lleol, bara, wyau, llaeth a chymaint mwy.
Caffi Gwalia
Becws
Bara, cacennau, pasteiod, brechdanau, rholiau selsig a phastai wedi'u gwneud yn ffres.
82 High Street, Pwllheli, LL53 5RR
Chocablock Corris
Becws Crefftau/Anrhegion Nwyddau Lleol
Mae Chocablock yn fusnes teuluol bach cyfeillgar yng Nghanolfan Grefftau Corris. Dewch i brofi eu siocled a chyffaith unigryw a wnaed â llaw. Maent yn cynhyrchu amrywiaeth hyfryd o siocledi di-laeth, fegan a di-glwten.
Marchnad Leol Bangor
Marchnadoedd/Marchnadoedd Ffermwyr
Marchnad wythnosol a gynhelir bob dydd Gwener ar Stryd Fawr Bangor o 9:00am-4.30pm. Gallwch siopa, cyfarfod, bwyta a mwynhau prysurdeb a chellwair eich Marchnad Leol gyfeillgar.