Llefydd i fwyta
Becws Islyn
Becws bychan ym mhentref Aberdaron. Mae bara a chacennau yn cael eu pobi'n ddyddiol, a cheir caffi ar y llawr cyntaf ar gyfer brecwast, byrbrydau ac amrywiol ddanteithion melys a sawrus.
Caffi'r Mynydd
Caffi cartrefol mewn lleoliad godidog ym mhen draw Llŷn. Cewch frecwast, prydau ysgafn, te prynhawn gyda chacennau cartref, hufen iâ a lluniaeth ysgafn am bris rhesymol.
Gwesty Tŷ Newydd
Gwesty a thafarn pedair seren ar lannau Bae Aberdaron. Golygfeydd gwych a chroeso cynnes drwy gydol y flwyddyn.
Sblash - Caban Pysgod
Bwyty yn Aberdaron sy'n gweini pysgod a sglodion traddodiadol, i fwyta i mewn neu i fynd allan, yn ogystal â theisennau cranc cartref a chynffonau cimychiaid a ddaliwyd yn lleol, wedi eu ffrio mewn cytew ysgafn creisionllyd a'i weini gyda dip chil
Henblas, Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE