Llefydd i fwyta
Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât.

Tŷ Castell
Mae Tŷ Castell yn cynnig profiad bwyta, yfed ac aros arbennig yng nghanol Caernarfon, tafliad carreg o Gastell Caernarfon, ac wedi'i leoli mewn adeilad hanesyddol o fewn muriau'r dref.

Caffi'r Ceunant
Gweinir brecwast, cinio, coffi a diodydd.
Y Ganolfan, Abergynolwyn, Gwynedd, LL36 9UU

Caffi Llew Glas
Caffi yn Harlech yn gweini te a choffi barista, cinio ysgafn cartref, cawliau, quiche a brechdanau. Mae cacennau cartref a'u sgons enwog yn cael eu pobi'n ffres bob dydd.

Davy Jones Locker
Mae caffi Davy Jones Locker wedi ei leoli mewn un o adeiladau hynaf Abermaw, yn dyddio yn ôl i'r 15ed Ganrif. Mae'n sefyll ar harbwr del Abermaw, gyda golgfeydd godidog o Gader Idris dros yr aber.
Y Cei, Abermaw, Gwynedd, LL42 1ET

Caffi Bwtri Bach
Delicatessen a chaffi cartrefol ar y Stryd Fawr, yn gweini cacennau a phrydau cartref, coffi wedi'w falu a bara wedi'w bobi yn ffres. Mae man eistedd tu allan ar gael hefyd.
Stryd Fawr, Harlech, Gwynedd, LL46 2YA