Llefydd i fwyta
Bron Eifion Hotel
Mae Bwyty Gardd Bron Eifion yn darparu rhywbeth at ddant pawb, p'un ai ydych yn chwilio am bryd bwyd 3 cwrs llawn, swper ysgafn, pryd rhamantus i 2, dathliad gyda ffrindiau neu noson hamddenol gyda bwyd a diod da.
Caffi Largo
Caffi newydd wedi ei leoli ger traeth Pwllheli sydd yn gweini bwyd cartref safonol yn defnyddio cynnyrch lleol. Pitsas, ac wrth gwrs...hufen iâ.
Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AB
Caffi Cabin
Os ydych yn chwilio am wasanaeth gyda gwên, awyrgylch cyfeillgar, bwyd cartref, Caffi Cabin yw’r lle i ymlacio ym Mhwllheli. Croeso cynnes i bawb. Dyfarnwyd caffi thema'r flwyddyn yn 2016.
Venu
Bar chwaraeon a chaffi ar lan y dŵr yw Venu sydd wedi'i leoli ar Harbwr Pwllheli.
Maes yr Orsaf, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5HG
Whitehall
Mae Whitehall yn gastro-dafarn sydd wedi'i lleoli yng nghanol Pwllheli, ac yn boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd, sy'n ei gwneud yn lleoliad prysur drwy gydol y flwyddyn.