Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Atyniadau
Mae’r amgueddfa ddeniadol hon ar fywyd gwledig Cymru yn dathlu bywyd rhyfeddol Henry Jones, a anwyd yn Llangernyw yn 1852.
Traeth Trefor
Atyniadau
Ceir golygfeydd arbennig o Benrhyn Llŷn oddi wrth y pentref bychan, gwahanol hwn. Datblygodd Trefor diolch i’w chwarel gwenithfaen lleol. Daeth yr harbwr bychan yn fan hynod o brysur wrth allforio gwenithfaen ar hyd ac ar draws Ewrop.
Trefor, Gwynedd, LL54 5LB
Tyddyn Mawr
Gweithgaredd
Ceir golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn o'r cwrs parcdir 9 twll tonnog hwn. Mae hefyd yn cynnwys llyn sydd yn herio'r chwaraewyr gorau! Mae croeso i grwpiau mawr, boed hynny ar gyfer partïon swyddfa neu godwyr arian!