Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Atyniadau
Mae’r amgueddfa ddeniadol hon ar fywyd gwledig Cymru yn dathlu bywyd rhyfeddol Henry Jones, a anwyd yn Llangernyw yn 1852.
Celticos Tours
Darparwr Gweithgareddau
Teithiau tywys preifat, wedi eu teilwrio'n arbennig, yn ymweld â thirluniau golygfaol, adeiladau hanesyddol, gerddi, treftadaeth leol a'r 'gemau cudd'.
Gelli Gyffwrdd
Atyniadau
Wedi ei ethol yr Atyniad Teuluol Gorau yng Ngogledd Cymru am chwech mlynedd yn olynol, cewch dim un diwrnod allan gwell na hyn!
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Pont Minllyn
Atyniadau
Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy. Adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.