Atyniadau
Castell Penrhyn
Atyniadau
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Nomad
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn!
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.