Nomad
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn! Dewch am daith encil 3 neu 5 diwrnod ac archwiliwch y cysylltiad gyda natur, gweithio gyda sgiliau tân a gwersylla, wynebu heriau mewnwelediad personol yn ogystal ag archwilio tirwedd gwych Gogledd Cymru. Mae hwn yn lle perffaith i ymlacio a dianc o bob dim - yn ogystal â'ch dyfeisiau digidol! Dewch i gymryd eich lle o amgylch ein tân a dechrau gwir daith fythgofiadwy.
Mwynderau
- Parcio
- Croesewir grwpiau
- Toiled
- Pecynnau ar gael