Atyniadau
Chwarel Hên Llanfair
Atyniadau
Mae'r llechen yn y gloddfa yma, sydd i'w ddarganfod mewn gwythiennau rhwng haenau o greigiau y cyfnod cyn - Gambraidd, ymysg y rhai hynaf yn y byd. Mae llawer o drefi diwydiannol Prydain ac Iwerddon wedi eu toi gyda llechi Llanfair.
Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae ymweliad â Llyn Brenig yn golygu diwrnod allan i'w fwynhau ac yn llawn hwyl. Mae'r ganolfan ymwelwyr ar agor trwy gydol y flwyddyn, gydag oriau estynedig yn ystod y tymor pysgota.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Pont Minllyn
Atyniadau
Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy. Adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.