Atyniadau
Amgueddfa Lloyd George
Atyniadau
Dysgwch mwy am y gwleidydd cynddeiriog a dadleuol hwn, fu’n arwain Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyfrannu at sefydlu’r wladwriaeth les.
Castell Cricieth
Atyniadau
Mae’n safle nodedig, tystiolaeth wirioneddol i ffawd amrywiol rhyfel. Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r môr yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy â’i ddau dŵr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr.
Corris Mine Explorers
Gweithgaredd, Atyniadau
Enillwyr Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2022 ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gweithgaredd y Flwyddyn 2022 Go North Wales. Dilynwch ôl troed cloddwyr llechi Oes Fictoria gydag un o'r tywyswyr arbenigol.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
Little Dragons Softplay
Atyniadau
Hwyl ar gyfer pob oed. Gall rhieni eistedd ac ymlacio tra bod y plant yn mwynhau. Mae ardal i blant bach gyda phwll peli a llawr esmwyth.
Capel Jerusalem, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3AE
Traeth Criccieth
Atyniadau
Caiff y ddau draeth yng Nghriccieth eu gwahanu gan y castell canoloesol blaenllaw a phwerus, sydd wedi ei leoli ar bentir bychan.
Cricieth, Gwynedd, LL52 0HU