Atyniadau
Bragdy Lleu
Atyniadau
Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu, yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf.
Dinas Dinlle
Atyniadau
Traeth poblogaidd iawn a hawdd cyrraedd ato yw Dinas Dinlle. Mae’r glan uchaf wedi ei orchuddio gan gerrig man, ond yna ceir ehangder mawr o dywod, euraidd, cadarn.
Dinas Dinlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TW
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?
Traeth Trefor
Atyniadau
Ceir golygfeydd arbennig o Benrhyn Llŷn oddi wrth y pentref bychan, gwahanol hwn. Datblygodd Trefor diolch i’w chwarel gwenithfaen lleol. Daeth yr harbwr bychan yn fan hynod o brysur wrth allforio gwenithfaen ar hyd ac ar draws Ewrop.
Trefor, Gwynedd, LL54 5LB