Atyniadau
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Little Dragons Softplay
Atyniadau
Hwyl ar gyfer pob oed. Gall rhieni eistedd ac ymlacio tra bod y plant yn mwynhau. Mae ardal i blant bach gyda phwll peli a llawr esmwyth.
Capel Jerusalem, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3AE
Nomad
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn!
Sinema Magic Lantern
Atyniadau
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900.