Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Amgueddfa Penmaenmawr
Atyniadau
Mae ymweliad ag Amgueddfa Penmaenmawr yn daith trwy amser - taith a fydd yn mynd â chi yn ôl, dros filoedd o flynyddoedd i’r gorffennol gan arwain at y dref a welwn yma heddiw.
Old Post Office, Conwy Old Road, Penmaenmawr, Conwy, LL34 6UU
Bragdy Lleu
Atyniadau
Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu, yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf.
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?
Rheilffordd yr Wyddfa
Atyniadau
Cymerwch antur unwaith mewn oes ar Reilffordd yr Wyddfa, sydd wedi cael ei disgrifio fel un o'r teithiau rheilffordd mwyaf golygfaol yn y byd.