Atyniadau
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.
Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai
Darparwr Gweithgareddau
Wedi'i osod mewn saith erw o dir, sy'n edrych dros Ynys Môn, mae Plas Menai ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'n gyrchfan perffaith i unrhyw un sy'n chwilio am chwaraeon dŵr rhagorol ac antur awyr agored.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Traeth Aberdyfi
Atyniadau
Mae Aberdyfi, yn un o’r mannau fwyaf deniadol yng Ngwynedd, yn sefyll ar smotyn darluniadol ble mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr, ar aber yr Afon Dyfi.
Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0EA