Atyniadau
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
Llwybrau Defaid Eryri
Gweithgaredd, Atyniadau
Dewch am dro bach hamddenol o amgylch ein fferm deuluol ym Mharc Cenedlaethol Eryri wrth dywys un o’n defaid Zwartbles prydferth a chyfeillgar gyda chi.
Parc Coed y Brenin
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae rhywbeth i bawb yma yng Nghoed y Brenin …
• Canolfan Ymwelwyr gyda Chaffi sy’n agor 7 niwrnod yr wythnos
• Siop Feiciau, Llogi Beiciau a Chyfleuster Golchi Beiciau
• Siop Redeg a Llogi Esgidiau
Parc Fferm y Plant
Atyniadau
Mae parc fferm y plant wedi ei leoli ar arfordir gogoneddus bae Ceredigion yn nghanol parc cenedlaethol Eryri. Dewch i weld eich hoff anifeiliaid ar y fferm!