Atyniadau
Canolfan Grefft Corris
Atyniadau
Wedi'u gosod yn erbyn cefndir o fryniau coediog trwchus mae 9 stiwdio grefft annibynnol lle gellir darganfod crefftwaith o safon a'r straeon unigryw y tu ôl i bob crefft.
Castell Caernarfon
Atyniadau
Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus.
Castell Harlech
Atyniadau
Ymestyn murfylchau castell Harlech allan o wyneb craig serth. ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’. Dyma anthem answyddogol Cymru, sy’n boblogaidd gyda chefnogwyr rygbi a bandiau catrodol.
Castell Cricieth
Atyniadau
Mae’n safle nodedig, tystiolaeth wirioneddol i ffawd amrywiol rhyfel. Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r môr yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy â’i ddau dŵr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr.
Portmeirion
Atyniadau
Creadigaeth y pensaer Clough Williams-Ellis yw Portmeirion. Yn ogystal a'i bensaerniaeth eiconig, amgylcheddau golygfaol a geddi gwyllt eang, mae'r pentref yn gartref i ddau westy hip, clwster o fythynnod hanesol, sba a bwytai arobryn.