Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Llŷn Golf
Gweithgaredd
Croeso i'r unig gwrs golff talu a chwarae 9 twll ym Mhen Llŷn, wedi'i leoli ger cyrchfan arfordirol Abersoch. Mae'r cyfleuster golff pob tywydd hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a golffwyr profiadol.
Trefriw Woollen Mills
Atyniadau
Wedi'i sefydlu ym 1859 mae Trefriw Woollen Mills yn cynhyrchu gorchuddion gwely traddodiadol o Gymru, rygiau teithio a brethyn cartref. Mae eu peiriannau dros 50 oed ac maen nhw'n cynhyrchu eu trydan eu hunain.