Atyniadau
Ffynnon Gybi
Atyniadau
Safle hardd hen ‘ffynnon sanctaidd’ i Sant Cybi o’r chweched ganrif. Mae dwy siambr ffynnon o garreg a bwthyn wedi goroesi.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Traeth Llandanwg
Atyniadau
Mae Llandanwg, rhwng Abermaw a Harlech, yn enwog am ei Eglwys sydd dafliad carreg i ffwrdd oddi wrth y môr. Mae’r traeth yn cael ei warchod gan wyntoedd cryfion, gan ei wneud yn le delfrydol ar gyfer ymlacio.
Llandanwg, Harlech, Gwynedd, LL46 2SD
Trefriw Woollen Mills
Atyniadau
Wedi'i sefydlu ym 1859 mae Trefriw Woollen Mills yn cynhyrchu gorchuddion gwely traddodiadol o Gymru, rygiau teithio a brethyn cartref. Mae eu peiriannau dros 50 oed ac maen nhw'n cynhyrchu eu trydan eu hunain.