Atyniadau
Great Adventures UK
Darparwr Gweithgareddau
Arbenigwyr mewn gweithgareddau antur, sydd wedi'u lleoli yn Eryri, ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau, o deithiau cerdded hamddenol yn y mynyddoedd gyda theulu a ffrindiau i arfordiro llawn adrenalin.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.
Trefriw Woollen Mills
Atyniadau
Wedi'i sefydlu ym 1859 mae Trefriw Woollen Mills yn cynhyrchu gorchuddion gwely traddodiadol o Gymru, rygiau teithio a brethyn cartref. Mae eu peiriannau dros 50 oed ac maen nhw'n cynhyrchu eu trydan eu hunain.