Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Boutique Tours of Snowdonia
Darparwr Gweithgareddau
Gadewch i Boutique Tours of Snowdonia eich helpu i 'Wneud y gorau o'ch ymweliad a darganfod mwy' o Eryri gyda'u teithiau tywys gyrrwr preifat enwog.
Conwy Valley Railway Museum
Atyniadau
Wedi ei leoli ym Metws-y-Coed, ger y prif orsaf, mae Conwy Valley Railway Museum yn lle i bawb sydd a diddordeb mewn rheilffyrdd. Mae'r rheilffordd fechan yn mynd â theithwyr am daith 8 munud o gwmpas gerddi wedi'w tirlunio'n hyfryd.
Tŷ Mawr Wybrnant
Atyniadau
Y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg oedd esgob o gyfnod y Tuduriaid, yr Esgob William Morgan, ac yn ffermdy Tŷ Mawr Wybrnant, ger Penmachno, yn Nyffryn Conwy, gallwch ymweld â safle ei fan geni
Parc Gwledig Padarn
Atyniadau
Nid yw’r disgrifiad ‘Parc Gwledig' yn gwneud cyfiawnder â’r lleoliad hwn.
Rhaeadr Ewynnol
Atyniadau
Mae'r rhaeadr ysblennydd hwn ar Afon Llugwy wedi dod yn enwog ac yn adnabyddus dros y 100 mlynedd diwethaf, ac wedi ymddangos ar ffilm, cerdyn post a chynfas.