Atyniadau
Canolfan Grefft Corris
Atyniadau
Wedi'u gosod yn erbyn cefndir o fryniau coediog trwchus mae 9 stiwdio grefft annibynnol lle gellir darganfod crefftwaith o safon a'r straeon unigryw y tu ôl i bob crefft.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
SAORImôr
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae SAORI yn ddull rhydd o wehyddu o Siapan, sy'n annog pobl i fynegi eu hunain yn reddfol. Gall gwehyddu gyda lliw a swmp y gwead godi eich hwyliau.
Yr Ysgwrn
Atyniadau
Nid oes rhyfedd mai milwr anfodlon oedd Hedd Wyn wrth i chi sefyll ar aelwyd Yr Ysgwrn ar ddyddiau hir o haf. Ei gartref oedd ei fwyniant, ei gynefin oedd ei nefoedd, a'i bensil oedd ei unig arf.