Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.
Chwarel Hên Llanfair
Atyniadau
Mae'r llechen yn y gloddfa yma, sydd i'w ddarganfod mewn gwythiennau rhwng haenau o greigiau y cyfnod cyn - Gambraidd, ymysg y rhai hynaf yn y byd. Mae llawer o drefi diwydiannol Prydain ac Iwerddon wedi eu toi gyda llechi Llanfair.
Rheilffordd Talyllyn
Atyniadau
Mae Rheilffordd Talyllyn yn reilffordd gul stêm hanesyddol, wedi ei lleoli ym mhrydferthwch cefn gwlad Canolbarth Cymru.