Atyniadau
Clwb Hwylio'r Bala
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Wedi ei leoli ym mhen gogledd-ddwyreiniol Llyn Tegid, mae Clwb Hwylio'r Bala yn rhoi mynediad hawdd i'r man hwylio poblogaidd yma, un o ddyfroedd hwylio mwyaf darluniadol Cymru.
Cymdeithas Genweirio Y Bala a'r Cylch
Gweithgaredd
Mae Cymdeithas Genweirio Y Bala a'r Cylch yn darparu cyfle i bysgota ar afonydd a llynnoedd ar gyfer pysgod bras a gêm. Mae pysgota ar gael ar docyn dydd, wythnos neu dymor.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
Min Y Don Christian Adventure Centre
Darparwr Gweithgareddau
Mae Canolfan Antur Cristnogol Min Y Don yn darparu gwyliau a gweithgareddau o ansawdd uchel ar gyfer pob oedran o fewn fframwaith gwerthoedd a safonau teulu Cristnogol, traddodiadol.
Rhos y Gwaliau Outdoor Education Centre
Darparwr Gweithgareddau
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Rhos y Gwaliau yn cynnig ystod eang o weithgareddau, a gallant lunio rhaglen unigryw i gwrdd ag anghenion eich grŵp a hyd eich arhosiad.