Rhos y Gwaliau Outdoor Education Centre
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Rhos y Gwaliau yn cynnig ystod eang o weithgareddau, a gallant lunio rhaglen unigryw i gwrdd ag anghenion eich grŵp a hyd eich arhosiad.
Gellir darparu llety ar gyfer hyd at 60 ar y safle cyfan. Mae'r byngalo yn gallu cynnig llety i hyd at 22 o bobl mewn 4 ystafell wely en-suite, ac mae yno gegin hefyd. Gall y brif ganolfan gynnig llety i 22+ ac mae yna ystafell gyffredin, ystafell fwyta ac ystafell gemau hefyd. Mae yma hefyd fwthyn 4 ystafell wely ar wahân.