Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Galeri Caernarfon
Atyniadau
Mae Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yn cynnig rhaglen amrywiol o theatr, cerddoriaeth, comedi, celf, dawns, sgyrsiau a gweithdai amrywiol.
Gwaith Llechi Inigo Jones
Atyniadau
Sefydlwyd Gweithdy Llechi Inigo Jones yn 1861 yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion.
Sinema Magic Lantern
Atyniadau
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900.