Atyniadau
Bodnant Welsh Food
Atyniadau
Dyma’r lle i fynd i siopa a bwyta yn Nyffryn Conwy. Mae Bwyd Cymru Bodnant yn arddangos y cynnyrch artisan gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, o lysiau a chawsiau organig i gig oen mynydd a danteithion o bob math.
Dyfi Distillery
Atyniadau
Distyllfa jin unigryw yng Ngwarchodfa Biosffer UNESCO Dyfi. Yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith, ac yn gartref i'r jin Pollination ac i'r jin Hibernation.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Zip World Quarry Karts
Gweithgaredd, Atyniadau
Paratowch ar gyfer antur llawn disgyrchiant gyda Quarry Karts! Mwynhewch yr UNIG brofiad o gert mynydd yn y DU wrth i chi wibio i lawr llethrau Chwarel y Penrhyn, gan gyrraedd cyflymder o hyd at 40mya!