Atyniadau
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?
Rheilffordd yr Wyddfa
Atyniadau
Cymerwch antur unwaith mewn oes ar Reilffordd yr Wyddfa, sydd wedi cael ei disgrifio fel un o'r teithiau rheilffordd mwyaf golygfaol yn y byd.
Snowdonia Watersports
Darparwr Gweithgareddau
Mae Snowdonia Watersports yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored a chwaraeon dŵr o'u canolfan ar ymyl Llyn Padarn yn Llanberis.
Stepping Outdoors
Darparwr Gweithgareddau
Busnes teuluol annibynnol, gydag angerdd am gael pobol i fynd allan i'r awyr agored, gyda'r nod o gyflwyno profiadau newydd i bobl a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i archwilio ymhellach.
Trefriw Woollen Mills
Atyniadau
Wedi'i sefydlu ym 1859 mae Trefriw Woollen Mills yn cynhyrchu gorchuddion gwely traddodiadol o Gymru, rygiau teithio a brethyn cartref. Mae eu peiriannau dros 50 oed ac maen nhw'n cynhyrchu eu trydan eu hunain.