Atyniadau
Amgueddfa Lloyd George
Atyniadau
Dysgwch mwy am y gwleidydd cynddeiriog a dadleuol hwn, fu’n arwain Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyfrannu at sefydlu’r wladwriaeth les.
Dwyfor Ranch Rabbit Farm and Animal Park
Atyniadau
Mae Dwyfor Ranch Rabbit Farm and Animal Park wedi ei leoli ym mhentref prydferth Llanystumdwy, rhwng trefi prysur Porthmadog a Phwllheli ar Ben Llŷn, Gogledd Cymru.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Nature’s Work
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nature's Work yn cynnig teithiau tywys, teithiau cerdded mynydd, sgramblo a theithiau natur a bywyd gwyllt ar draws Eryri. Wedi'i redeg gan Arweinydd Mynydd Rhyngwladol profiadol a chymwysedig ac arbenigwr natur.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.