Dwyfor Ranch Rabbit Farm and Animal Park
Mae Dwyfor Ranch Rabbit Farm and Animal Park wedi ei leoli ym mhentref prydferth Llanystumdwy, rhwng trefi prysur Porthmadog a Phwllheli ar Ben Llŷn, Gogledd Cymru. Am dros 30 mlynedd, mae'r fferm wedi croesawu ymwelwyr i ryngweithio gydag ystod eang o anifeiliaid yn cynnwys rhai bridiau prin. O dan oruchwuliaeth oedolion, mae'r plant yn cael gafael â gwahanol mathau o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, moch cwta a chŵn bach, yn ogystal â bwydo anifeiliaid mwy gyda llaw, fel geifr pigmi, alpaca, rhea, mulod, merlod, moch ac ŵyn.
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Cyfleusterau plant
- Disgownt i grwpiau
- Croeso i bartion bws
- Croesewir grwpiau