Atyniadau
Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul
Atyniadau
Darganfyddwch fyd y lein fach, o’r locomotif stêm diwydiannol i swyn rheilffyrdd gwledig Iwerddon. Dysgwch am y Parchedig Awdry a’i straeon rheilffordd i blant.
Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Atyniadau
Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli mewn dau dŵr yng Nghastell Caernarfon.
Arete Outdoor Centre
Darparwr Gweithgareddau
Darparwyr addysg awyr agored a chyrsiau gweithgaredd antur gan gynnwys dringo creigiau, canŵio, arfordiro a cherdded ceunant. Llety grŵp 3 seren ar gael ar gyfer 100.
Beics Antur
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Mae gan Beics Antur ddewis helaeth o feiciau merched, dynion a phlant i'w llogi, yn ogystal â beiciau addasol.
Boulder Adventures
Darparwr Gweithgareddau
Mae Boulder Adventures, Llanberis yn cynnig gweithgareddau awyr agored a llety yn Eryri, Gogledd Cymru.
Caer Rufeinig Segontium
Atyniadau
Olion caer atodol Rufeinig wedi ei sefydlu mae'n debyg ar ddiwedd y 70au OC a'i diwygio hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif.